The following tale appeared in the interesting Welsh Magazine "Seren Gomer," for June, 1823:--
"Yn mis Gorphenaf, 1826, ffarmwr o blwyf Llanuwchaiarn, yn nghylch tair milltir o Aberystwyth, ty anedd yr hwn sydd o fewn i 300 llath o lan y mor, a aeth i wared i'r creigiau, pan yr oedd yr haul yn cyfodi ac yn pelydru yn hyfryd ar y mor, a gwelai fenyw (fel y tybiai) yn ymolchi yn y mor, o fewn i dafliad carreg ato; ar y cyntaf efe o wylder a aeth yn ei ol, ond ar adfyfyriad meddyliodd na fuasai un fenyw yn myned allan mor bell i'r mor, gan ei fod yr amser hwnw yn llifo; ac hefyd yr oedd yn sicr fod y dwfr yn chwe' troedfedd o ddyfnder yn y fan y gwelodd hi yn sefyll. Wedi meddwl felly, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymlusgodd yn mlaen i fin y dibyn o ba le y cafodd olwg gyflawn arni dros fwy na haner awr. Wedi edrych digon arni ei hun, efe a ymlusgodd yn ei ol, ac a redodd i alw ei deulu i weled yr olygfa ryfeddol hon; wedi dywedid wrthynt yr hyn a welsai, efe a'u cyfarwyddodd o'r drws pa fan i fyned, ac ymlusgo i ymyl y graig fel y gwnaethai efe. Aeth rhai o honynt heb ond haner gwisgo, canys yr oedd yn foreu, a hwythau ond newydd gyfodi; ac wedi dyfod i'r fan, gwelsant hi dros o gylch deng mynyd, tra bu y ffarmwr yn galw ei wraig a'i blentyn ieuangaf. Pan ddaeth y wraig yn mlaen, ni syrthiodd hi i lawr, fel y gwnaethau y rhai eraill, ond cerddodd yn mlaen yn ngolwg y creadur; eithr cyn gynted ag y gwelodd y For-Forwyn hi, soddodd i'r dwfr, a nofiodd ymaith, nes oedd o gylch yr un pollder oddiwrth y tir ag y gwelsid hi ar y cyntaf; a'r holl deulu, y gwr, y wraig, a'r plant, y gweision, a'r morwynion, y rhai oeddynt oll yn ddeuddeg o rifedi, a redasant ar hyd y lan dros fwy na haner milltir, ac yn agos yr holl amser hwnw gwelent hi yn y mor, a rhai gweithiau yr oedd ei phen a'i hysgwyddau oll y tu uchaf i'r dwfr. Yr oedd carreg fawr, dros lathen o uchder yn y mor, ar ba un y safai pan welwyd hi gyntaf. Yr oedd yn sefyll allan o'r dwfr o'i chanol i fynu, a'r holl deulu a dystient ei bod yn gymwys yr un fath o ran dull a maintioli a dynes ieuanc o gylch deunaw oed. Yr oedd ei gwallt yn o fyr, ac o liw tywyll; ei gwyneb yn dra thlws; ci gwddf a'i breichiau fel arferol; ei bronau yn rhesymol, a'i chroen yn wynach nag eiddo un person a welsant erioed o'r blaen. Plygai yn fynych, fel pe buasai yn cymeryd dwfr i fynu ac yna yn dala ei llaw o flaen ei hwyneb dros oddeutu haner mynyd. Pan blygai ei hun felly, gwelid rhyw beth du, fel pe buasai cynffon fer, yn troi i fyny y tu ol iddi. Gwnaethai ryw swn yn fynych tebyg i disian, yr hwn a barai i'r graig i adseinio. Y ffarmwr, yr hwn a gafodd gyfleusdra i edrych arni dros gymaint o amser, a ddywedai na welodd ef ond ychydig iawn o wragedd mor hardd-deg yr olwg a'r For-Forwyn hon. Y mae yr holl deulu, yr ieuengaf o ba rai sydd yn un ar ddeg oed, yn awr yn fyw, a chawsom yr hanes hwn, air yn ngair, fel ei rhoddir yma, oddiwrthynt hwy eu hunain o fewn y mis diweddaf."